Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
16 Tachwedd 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(5 munud)
(30 munud)
NDM6139 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18, fel y nodir yn Nhabl 1 o "Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017-18", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2016 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2017-18
Llythyr ymateb Comisiwn y Cynulliad at y Pwyllgor Cyllid
(30 munud)
NDM6145 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG.
2. yn galw ar Lywodraeth Cymru, drwy negodi â Llywodraeth y DU, i sicrhau pwerau i gyhoeddi trwyddedau gwaith i wladolion o dramor weithio yn y GIG yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd GIG Cymru yn parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys a anwyd ac a hyfforddwyd dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU adael yr UE, ac i edrych ar bob opsiwn ar gyfer hwyluso hynny.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 3. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rheolau mewnfudo synhwyrol i'r DU, gan gynnwys cyfundrefn trwydded waith a fisa i lenwi'r bylchau sgiliau yn GIG Cymru.
(30 munud)
NDM6146 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod adroddiadau yn datgan bod Llywodraeth y DU wedi derbyn £8 biliwn gan Gynllun Pensiwn y Glowyr (MPS), yn unol â threfniadau presennol sy'n golygu ei bod yn cael 50 y cant o warged MPS, ac yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cael £750 miliwn mewn taliadau gwarged yn 2014 yn unig.
2. Yn galw am adolygiad o'r trefniant rhannu gwarged 50/50 rhwng Llywodraeth y DU ac MPS, fel y caiff ei gefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac arweinwyr lleol a rhanbarthol yn Lloegr, i sicrhau adolygiad Llywodraeth y DU o'r trefniadau gwarged MPS a cheisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd MPS.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn cydnabod bod bodolaeth gwarant wedi galluogi'r ymddiriedolwyr i fuddsoddi mewn ffordd sydd wedi cynhyrchu gwargedion a thaliadau bonws, o ganlyniad, i aelodau.
(60 munud)
NDM6140 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i gymdeithas Cymru gan bobl hŷn.
2. Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i bobl hŷn drwy roi cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedion ar gyfer y rhai sydd mewn gofal preswyl i sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion oes a'u cartrefi i gostau gofal.
4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd ei gynhyrchu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff pobl sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) Cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, i ehangu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn;
(b) Rhoi dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau; ac
(c) Sicrhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU sy'n ystyriol o ddementia.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r terfyn cyfalaf i £50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw rhagor o’u hasedau pan fyddant yn symud i ofal preswyl.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at yr oedi parhaus gan Lywodraeth y DU o ran diwygio’r trefniadau ar gyfer talu am ofal.
Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi awgrymu Bil Hawliau Pobl Hŷn i Gymru;
b) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r egwyddor o Fil;
c) y bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd camau pellach i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun dementia cenedlaethol newydd.
[Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu is-bwynt 5a) a rhoi yn ei le:
'cefnogi gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o weithio tuag at ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn;'
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 5b) a rhoi yn ei le:
'cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ran sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau cyhoeddus;'
Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'adeiladu rhagor o dai â chymorth er mwyn ehangu dewis ac ategu gofal preswyl a sefydliadol.'
Gwelliant 7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'gweithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddau ac awdurdodau lleol i ddiogelu pobl hŷn rhag sgamiau, cam-werthu a ffyrdd eraill o ymelwad ariannol.'
(60 munud)
NDM6141
Mark
Reckless (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i archwilio pob agwedd ar gyllido ar gyfer y ddwy bont Hafren pan gânt eu dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.
2. Yn nodi bod asesiadau blaenorol wedi dangos y byddai cyfanswm y drafnidiaeth yn cynyddu o leiaf 25 y cant pe bai'r tollau'n cael eu diddymu
3. Yn galw am gynnal asesiad traffig gan Traffig Cymru er mwyn llywio'r penderfyniad i ddiddymu tollau ar sail gallu'r system drafnidiaeth o amgylch i ymdopi ag unrhyw gynnydd mewn trafnidiaeth
4. Yn credu y dylai defnydd o'r pontydd heb dollau fod yn flaenoriaeth os y gellir cadarnhau dyfodol hirdymor y ddwy bont drwy gyllidebau presennol heb unrhyw effaith ar brosiectau trafnidiaeth eraill ledled Cymru,
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn galw am ddatganoli'r cyfrifoldeb dros bontydd Hafren pan maent yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, ac yn cefnogi diddymu tollau sy'n daladwy ar y croesfannau.
Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwyntiau 1 a 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
1. Yn nodi’r manteision y byddai diddymu tollau ar bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru.
2. Yn credu nad oes achos dros barhau i godi tollau ar bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a busnesau Cymru.
(30 munud)
NDM6142
Hefin
David (Caerffili)
Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru.
(30 munud)
NDM6133 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Colli gwaith ymchwil y galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2016